Mae clwb Dwyfor a Gwynedd wedi dod at ei gilydd yn 2022, sydd yn bennaf wedi ei leoli yn Ogledd Gwynedd (Arfon a Dwyfor).
Rydym yn trefnu sesiynau hyfforddi a ralïau yn gyson yn lleol ac i ffwrdd, er mwyn i’r aelodau gael marchogaeth a chwrdd ffrindiau, i gael profiad o wahanol feysydd marchogaeth ac i gael gweithio tuag at yr amrywiol fathodynau a phrofion.
Rydym yn Gangen gyfeillgar, ac mae croeso mawr i deuluoedd ymuno gyda’r aelodau mewn ralïau i weld beth sy’n mynd ymlaen, i gynorthwyo neu i ofyn unrhyw gwestiynau.
Os ydych am ofyn wybod mwy, yna cysylltwch gydag unrhyw aelod o’r Pwyllgor.
Neu ebostiwch dwyforgwynedd@pcuk.org